Hygyrchedd a Chyfleusterau
Yma yn Yr Ysgwrn, rydym yn estyn croeso cynnes iawn i bawb ac yn gwneud ein gorau i sicrhau bod pawb yn cael profiad gwerth chweil.
Dyma restr o'r cyfleusterau fydd yn eich disgwyl ar eich ymweliad i'r ffermdy hanesyddol;
- Ffermdy Yr Ysgwrn - teithiau tywys ar yr awr (o 11.00 y.b. ymlaen)
- Ystafell de a siop fechan
- Ystafell gymunedol (ar gael i'w logi ar gyfnodau llai prysur
- Arddangosfa o waith Hedd Wyn, Teulu'r Ysgwrn a Chymuned Trawsfynydd
- Ffilm fer yn Beudy Tŷ am effaith y Rhyfel Byd Cyntaf
- Llwybrau Cerdded
- Toiledau
- Maes Parcio
Nodir - Dim ond cwn tywys a ganiateir ar safle'r Ysgwrn
Er mwyn sicrhau bod ein holl ymwelwyr yn teimlo’n groesawus:
- Mae holl adeiladau cyhoeddus Yr Ysgwrn yn hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau. Lle bynnag mae grisiau i mewn i adeilad, mae llwybr neu lifft hygyrch ar gael hefyd.
- Mae gennym ddau dŷ bach sy’n hygyrch i bawb.
- Mae ein arddangosfeydd yn cynnwys cyfuniad o ddehongli gweledol a sain.
- Mae gennym dri man parcio hygyrch a thrafnidiaeth hygyrch ar gael ar y safle.
- Mae un o’n tri llwybr troed ar y safle yn hygyrch i bawb.
Peidiwch â phetruso cyn cysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion arbennig penodol. Byddwn bob amser yn ymdrechu i addasu i ddiwallu anghenion ein ymwelwyr.
Cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 772 508 neu ebostiwch yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru Am grynodeb manwl o’n trefniadau mynediad, lawrlwythwch ein datganiad mynediad.
Beudy Llwyd a'r Maes Parcio (© APCE)