Prîs Mynediad
Mae mynediad i safle a chyfleusterau’r Ysgwrn wedi ei gynnwys ym mhob pecyn, a bydd tywysydd bob amser ar gael yn y ffermdy. Mae gennym faes parcio pwrpasol ar y safle gyda lle i fws barcio a throi heb ffwdan. Rydym yn awyddus i gynnig profiad arbennig i’n hymwelwyr felly cofiwch gysylltu â ni i drafod eich anghenion. Mi fydd unrhyw incwm yn cyfrannu at gadwraeth parhaus Yr Ysgwrn. Diolch am ein helpu i gadw'r drws yn agored.
Prisiau 2020 | |
---|---|
Oedolyn | £7.50 |
Plant (o dan 16) |
£3.00 |
Tocyn Teulu (2 oedolyn + 2 blentyn) |
£17.00 |
Cysylltwch â ni ar gyfer ymweliadau grwp.