Gwirfoddoli
Mae’r Ysgwrn yn parhau i groesawu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Rydym yn falch ac yn frwd iawn i rannu negeseuon oesol y safle am ryfel, diwylliant a chymuned ac yn awyddus i ychwanegu pobl o’r un meddylfryd at ein tîm.
Er mwyn ‘cadw drws Yr Ysgwrn yn agored’ i’r dyfodol a trwy gyfnod heriol mae angen tîm o bobl gydag amrywiaeth o sgiliau i’n helpu.
Os ydych chi’n awyddus i…..
- · Gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau?
- · Fod yn rhan o dîm cyfeillgar Yr Ysgwrn?
- · Datblygu eich sgiliau neu ddiddordebau?
- · Wella eich CV
- · Ymarfer eich Cymraeg?
- · Gael profiadau newydd?
Yna mae’r Ysgwrn eich angen chi! Bydd hyfforddiant yn cael ei drefnu ar eich cyfer.
Naws Gymraeg a Chymreig sydd i’r Ysgwrn ac rydym yn croesawu’r rhai hynny sy’n dysgu’r Gymraeg fel gwirfoddolwyr.