Cyfeillion Yr Ysgwrn
Ydych chi yn awyddus i....
- Gefnogi datblygiadau cyffrous yn Yr Ysgwrn, yn lleol a thu hwnt?
- Weithredu gweithgaredau arbennig yn Yr Ysgwrn?
- Gynnig cymorth gwirfoddol ar safle’r Ysgwrn yn ôl yr angen?
Prynwyd Yr Ysgwrn, ynghyd â llawysgrifau a chadeiriau barddol, nid yn unig i’w diogelu fel casgliad, ond am eu harwyddocâd llenyddol a hanesyddol i Eryri, Cymru ac Ewrop.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n rheoli ac yn berchen ar Yr Ysgwrn a’i gynnwys ac rydym wedi sefydlu grŵp Cyfeillion Yr Ysgwrn. Nod y grŵp yw codi ymwybyddiaeth o arwyddocâd Yr Ysgwrn yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Gallwch ymuno â Chyfeillion Yr Ysgwrn drwy lenwi'r ffurflen a’i dychwelyd i:
Cyfeillion Yr Ysgwrn,
Llys Ednowain,
Trawsfynydd,
Gwynedd,
LL41 4SP
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
Ffôn: 01766 770 274
Ebost: yrysgwrn@eryri.llyw.cymru
Gallwch ymuno â Chyfeillion Yr Ysgwrn drwy lenwi'r ffurflen (pdf) a’i dychwelyd i:
Cyfeillion Yr Ysgwrn,
Llys Ednowain,
Trawsfynydd,
Gwynedd,
LL41 4SP
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Ysgwrn:
Ffôn: 01766 772 508
Ebost: yr.ysgwrn@eryri.llyw.cymru