Datganiad o Fwriad
Ein bwriad yw cadw drws Yr Ysgwrn yn agored er mwyn rhannu negeseuon oesol Yr Ysgwrn am ddiwylliant, cymdeithas a rhyfel a hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad o rinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri.
Amcanion Strategol:
- Cynnig profiad o’r radd flaenaf i bawb sy’n ymweld â’r Ysgwrn
- Gwarchod naws am le arbennig Yr Ysgwrn
- Cynnal Yr Ysgwrn fel amgueddfa wedi’i achredu a fferm weithio
- Darparu mynediad i gasgliadau a gwasanaethau ar gyfer cynulleidfa eang nawr ac yn y dyfodol
- Gweithio gydag ystod o bartneriaid
- Hyrwyddo, cefnogi ac ysbrydoli creadigrwydd o bob math drwy ysgogi mwynhad a gwerthfawrogiad o Barc Cenedlaethol Eryri
- Gweithredu yn ariannol ac yn gorfforaethol effeithlon
Rydym yn gwerthfawrogi:
- Haelioni
- Dychymyg a chreadigrwydd
- Cydlyniad
- Tryloywder