Newyddion Diweddaraf
Croeso 'Nol - 1 Medi 2020
Ar ôl misoedd hir ar gau rydym ni’n hynod o gyffroes ein bod ar fin ailagor yn fuan, ac am gael eich croesawu yn ôl i’r Ysgwrn! Bydd y drefn ychydig yn wahanol i’r arfer, ond bydd y croeso'r un mor gynnes.
Ar ôl misoedd hir ar gau rydym ni’n hynod o gyffroes ein bod ar fin ailagor yn fuan, ac am gael eich croesawu yn ôl i’r Ysgwrn! Bydd y drefn ychydig yn wahanol i’r arfer, ond bydd y croeso'r un mor gynnes.
Dyma ddarn byr yn esbonio mwy am y trefniadau newydd.
Byddwn yn agor ar ddydd Gwener a Sadwrn yn unig, gyda dwy daith yn digwydd bob diwrnod, y cyntaf am 11 y bore a’r ail am 2 yn y prynhawn. Mae’n angenrheidiol archebu eich taith o flaen llaw, ac mae modd gwneud hynny drwy e‐bostio neu godi’r ffôn. Mae pob taith yn gyfyngedig i un swigen / aelwyd estynedig, fydd yn caniatáu i chi gael profiad unigryw a phersonol yn Yr Ysgwrn, ac yn golygu bod modd cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Beth fydd ar gael i chi?
‐ Sgwrs gan ein tywyswyr profiadol, fydd naill ai yn digwydd tu allan i’r Ysgwrn neu yn Beudy Tŷ, yn ddibynnol ar y tywydd.
‐ Cyfle i grwydro’r Ysgwrn, a gweld y Gadair Ddu a’r cartref lle magwyd Hedd Wyn.
‐ Paned a chacen (gofynnwn yn garedig i chi ragarchebu’r gacen).
‐ Siop.
‐ Oriel, gyda rhagor o wybodaeth am Hedd Wyn, ei deulu, ei gyfnod a’r gymuned.
‐ Ffilmiau yn cyfleu hanes Hedd Wyn a’r Ysgwrn mewn mwy o fanylder.
‐ Llwybr cerdded Rhos Grwm.
Yn anffodus, ni fydd yr ardal chwarae plant ar agor.
Beth ydym ni’n ofyn i chi ei wneud?
‐ Mae nifer o ddiheintwyr dwylo wedi’u gosod o amgylch y safle, gofynnwn i chi eu defnyddio er lles a diogelwch ymwelwyr a staff os gwelwch yn dda.
‐ Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, cadwch 2 fedr oddi wrth aelodau o staff, gwirfoddolwyr, ac unrhyw un arall na sydd yn rhan o’ch swigen chi, drwy gydol eich ymweliad.
‐ Er mwyn lleihau’r risg o ddal a lledaenu’r feirws, gofynnwn yn garedig i chi wisgo mwgwd tu mewn i’r holl adeiladau.
‐ Gofynnwn yn garedig i chi beidio â chyffwrdd y creiriau a’r dodrefn yn y tŷ, na’r paneli yn yr Oriel a’r dderbynfa.
‐ Wrth fynd fyny at y cartref gofynnwn i chi beidio â mynd yn agos at y bunglow lle mae Mr Williams, nai Hedd Wyn, yn byw. Pe gwelwch Mr Williams ar y safle, gofynnwn i chi gadw eich pellter a pheidio mynd ato os gwelwch yn dda.
Beth fydda ni’n ei wneud i’ch diogelu chi?
‐ Cyn ac ar ôl pob ymweliad byddwn yn glanhau’r holl safle. Gan ein bod yn amgueddfa nid yw’n bosib diheintio’r creiriau na’r cadeiriau eisteddfodol yn y tŷ, felly mae’n bwysig nad ydych yn eu cyffwrdd.
‐ Bydd system unffordd mewn lle yn yr holl adeiladau.
‐ Bydd y staff yn gwisgo mwgwd tu mewn i’r holl adeiladau.
Os oes gennych chi unrhyw symptomau o’r coronafeirws gofynnwn i chi beidio ag ymweld â’r safle os gwelwch yn dda.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn fuan!