Newyddion Diweddaraf
Gweithdy Celf gydag Emma Metcalfe - 28 Mai 2022
**Nifer cyfyngedig o lefydd, felly cyntaf i'r felin...**
Lle? Yr Ysgwrn
Dyddiad? 28 Mai
Cost? £5 (i'w dalu ar y dydd)
Yn ystod y sesiwn fe gewch fynd allan i sgetsio adeiladau'r Ysgwrn/waliau/brwyn/mynyddoedd os yn dywydd braf neu ddefnyddio lluniau ohonynt os yn bwrw glaw.
Yn ystod y sesiwn, bydd cyfle i ddysgu am:
- Persbectif a sgiliau sgetsio/arsylwi
* Cyfansoddiad ac edrych ar luniau enwog
* Sut i ddewis lliwiau a pheintio gyda dyfrlliw a gouache
Byddwn yn cynnal dwy sesiwn:
Bore - 10:00 - 12:45 (addas i blant 7 - 11 oed)
P'nawn - 13:45 - 16:30 (addas i blant dros 12 oed - oedolion)
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn Gymraeg, ond mae croeso cynnes i bawb o bob iaith.