Newyddion Diweddaraf
Cylchdaith Archeolegol - 18 Mehefin 2022
Cylchdaith archeolegol i ben Craig Laseithin ac o gwmpas Llyn Gelli Gain o gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn
18 Mehefin, 2022 (10:00am - hyd at 5 awr)
Dewch ar daith gerdded o amgylch ardal brydferth Trawsfynydd.
Byddwn yn cychwyn yn yr Ysgwrn ac yn ymweld â chyfres o safleoedd archeolegol.
Byddwn yn edrych ar safleoedd claddu o’r Oes Efydd, tai crwn a chaeau o’r Oes yr Haearn, odynau a ffordd Rufeinig, ac olion cartrefi o’r canoloesoedd a mwy diweddar.
Byddwn hefyd yn edrych ar nodweddion milwrol sy’n perthyn i’r ardal gan iddi gael ei defnyddio fel maes tanio yn y 1900 cynnar tan y 1950au.
Bydd y daith gyfan yn cynnig golygfeydd bendigedig (tywydd yn caniatáu!), gan gynnwys golygfeydd godidog o’r fro o ben Craig Laseithin, a hoe am bicnic ar lan Llyn Gelli Gain.
Yn arwain y daith bydd archeolegydd Parc Cenedlaethol Eryri, John Roberts a chydweithwyr eraill o Parc Eryri.
Pryd: 18 Mehefin, 10am (pawb i ymgynnull am 9:45am)
Lle: Maes parcio Yr Ysgwrn, Trawsfynydd
Hyd y daith: Tua 11km (7 milltir); mi ddylai gymryd 5 awr
Beth sydd ei angen? Picnic i ginio, eli haul, sgidiau cerdded addas, dillad glaw a digon o ddŵr
Bydd y daith yn cael ei chynnal yn Gymraeg. Mae’n addas iawn ar gyfer dysgwyr Cymraeg lefel canolradd, uwch + neu gloywi iaith. Nid yw’n addas ar gyfer plant o dan 11 oed.
Mae angen archebu ymlaen llaw trwy'r ddolen yma neu ffonio 01766 772 508.
** Noder – mae’r rhan fwyaf o’r daith mewn caeau a thraciau garw trwy dirwedd fryniog. Mae angen lefel o ffitrwydd eithaf a byddai profiad o gerdded mewn tir uchel yn fanteisiol. **
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly cyntaf i’r felin...
Geirfa i ddysgwyr
Cylchdaith – circular walk
Archeolegol – archaeological
Oes Efydd – Bronze Age
Oes yr Haearn - Iron Age
Odynau - kilns
Canoloesoedd - medieval times
Milwrol - miletary
Hoe – to take a break
Maes tanio – firing range
Golygfeydd bendigedig / godidog – stunning scenery