Ymunwch â’r tîm ymroddedig o wirfoddolwyr sy'n croesawu ymwelwyr i’r Ysgwrn

Mae ymwelwyr wedi bod yn profi hud Yr Ysgwrn ers degawdau. Chwaraeodd aelodau o deulu Hedd Wyn ran hollbwysig wrth gadw drysau’r ffermdy ar agor a rhannu hanes bywyd Hedd Wyn.

Ers 2012, pan brynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri’r safle, mae gwirfoddolwyr wedi chwarae’r rhan hollbwysig o groesawu ymwelwyr i’r safle a rhannu hanes Hedd Wyn.

Sut y gallwch chi helpu drwy wirfoddoli

Mae sawl ffordd y gallwch chi helpu’r Ysgwrn drwy waith gwirfoddol.

Bydd angen rhoi croeso cynnes i ymwelwyr yr Ysgwrn. Byddwch yn gwerthu tocynnau, paned a chacen a chynnyrch siop ac yn rhannu gwybodaeth am y safle.

Mae teithiau tywys y ffermdy yn atyniad poblogaidd yn Yr Ysgwrn. Mae’r teithiau hyn yn gyfle gwych i ymwelwyr ddarganfod bywyd yn Yr Ysgwrn a hanes Hedd Wyn.

Beth am fod yn un o’r llond llaw o dywyswyr sy’n datgelu hanes Yr Ysgwrn i unigolion, grwpiau ac ysgolion o bedwar ban byd?

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n hapus i wneud ychydig o waith glanhau cyffredinol ar y safle.

Yn ogystal, mae dwy ardd o flaen y ffermdy a bydd angen gwirfoddolwyr brwdfrydig i ofalu amdanynt

O dro i dro, bydd angen ymgymryd â gwaith cynnal a chadw cyffredinol yn ogystal.

Mae angen y gofal a’r sylw gorau ar ddodrefn a chelfi’r Ysgwrn fel eu bod i’w gweld am genedlaethau i ddod. Allwch chi helpu i warchod yr arteffactau gwerthfawr yn Yr Ysgwrn?

Yn ogystal, mae dysgu a darganfod mwy am stori Yr Ysgwrn yn dasg barhaus. Ydych chi’n ymchwilydd brwd a all helpu i ddarganfod hanes Yr Ysgwrn?

Buddion Gwirfoddoli

Mae amrywiaeth o fuddion i wirfoddoli gyda’r Ysgwrn.

Chwarae rhan mewn gwarchod hanes Hedd Wyn
Bydd eich gwaith fel gwirfoddolwr yn mynd tuag at warchod etifeddiaeth Yr Ysgwrn a Hedd Wyn am genedlaethau i ddod.
Bod yn rhan o dîm bychan ac ymroddedig o wirfoddolwyr
Mae tîm o wirfoddolwyr Yr Ysgwrn yn dîm bychan, cyfeillgar ac ymroddedig.
Gweithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r Ysgwrn yn leoliad eithriadol o hardd i weithio ynddo.
Cyfleoedd Hyblyg
Gallwch wirfoddoli yn ystod oriau sy'n eich siwtio chi.

Cais i Wirfoddoli

Mae’n rhaid i chi fod dros 16 oed i wneud cais i wirfoddoli.

Bydd angen i chi lewni’r ffurflen gais os hoffech wirfoddoli gyda’r Ysgwrn.

Ffurflen Gais Gwirfoddoli

https://yrysgwrn.com/wp-content/uploads/2022/06/gwirfoddolwyr.jpeg
Cyfarfod y Tîm
Dewch i adnabod staff tymhorol Yr Ysgwrn.
Cyfarfod y Tîm
This site is registered on wpml.org as a development site.