Datblygiadau

Cyn 2012

Fferm fynydd draddodiadol a saif ar lethrau deheuol Cwm Prysor yw’r Ysgwrn. Yn sgil marwolaeth cynamserol Hedd Wyn yn 1917, daeth yn gyrchfan i bererinion o Gymru benbaladr a oedd am gael gweld y Gadair Ddu a chyfarfod teulu Hedd Wyn. Mae’r Ysgwrn yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol ac mae’n adnabyddus fel cartref y bardd, Hedd Wyn. Lladdwyd y bardd adnabyddus yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi’i farwolaeth, cafodd ei wobryo â chadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl, Yr Arwr.

Mawrth 1af, 2012

Cyhoeddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'i bartneriaid eu bod wedi sicrhau Yr Ysgwrn ar gyfer y genedl. Gwireddwyd y pryniant diolch i gyfraniadau ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol.

Tachwedd 1af, 2012

Cyhoeddwyd mai Meilir Jarrett o Drawsfynydd fyddai tenant amaethyddol Yr Ysgwrn. Bellach, mae cyfrifoldebau Meilir yn cynnwys rheoli’r fferm fynydd 168 o erwau, y tir comin, sied amaethyddola da byw gan gynnwys 200 o ddefaid Cymreig a 5 o heffrod duon Cymreig.

Tachwedd 26ain, 2012

Rhoddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ganiatâd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddatblygu cynlluniau ar gyfer y ffermdy rhestredig Gradd ll*, tir y fferm a’r casgliadau sy’n berthnasol i Hedd Wyn gan ddyfarnu pas rownd gyntaf a grant datblygu o £149,700

Mawrth 1af , 2013

Penodwyd dau swyddog i ddatblygu’r Ysgwrn a chadw’r drws yn agored. Clwblhaodd Europac, sef cwmni sy’n arbenigo mewn sganio 3D, sgan o’r Gadair Ddu er mwyn ein galluogi i’w hail-greu yn ddigidol.

2013 ymlaen

Mae’r Ysgwrn yn leoliad ysbrydoliedig a chynhaliwyd yno nifer o ddiwrnodau agored a digwyddiadau llenyddol arbennig yng nghwmni ysgolheigion, llenorion a beirdd megis Ifor ap Glyn, Myrddin ap Dafydd, Dr Bleddyn Huws, Alan Llwyd, Gai Toms, Dewi Prysor a Haf Llewelyn.

Ionawr 13eg, 2015

Dadorchuddio replica’r Gadair Ddu yn y Senedd. Mae’r replica yn deyrnged i Eugeen Vanfleteren a luniodd y gadair wreiddiol ac mae’n galluogi cynulleidfa ryngwladol i ddysgu mwy am hanes y Gadair Ddu. Cynhyrchwyd y replica gan Brifysgol Caerdydd a chwmni Drumlord gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Amgueddfa Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

July 10th, 2015

Derbyniodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones groeso cynnes iawn ar aelwyd Yr Ysgwrn. Yn ystod yr ymweliad, bu’r Prif Weinidog yn sgwrsio gyda nai Hedd Wyn, Mr Gerald Williams a chafodd gyfle i drafod datblygiad Yr Ysgwrn gyda’r swyddogion prosiect ac i weld rhai o’r cynlluniau sydd ar y gweill.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
"Mae’n addas fy mod wedi medru ymweld â’r Ysgwrn ar ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, cartref y bardd enwog, Hedd Wyn. Mae’n bwysig ein bod yn gwarchod ein adeiladau eiconig ar gyfer cenedlaethol dyfodol, a dyna pam ein bod wedi gweithredu i gadw’r safle hwn sy’n rhan pwysig o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.”

Medi 10fed, 2015

Agorwyd arddangosfa arbennig ym Mhlas Tan y Bwlch gan Gerald Williams and Malo Bampton, nai a nith Hedd Wyn. Dros gyfnod o fisoedd bu disgyblion ysgolion lleol yn cynorthwyo’r artist, Luned Rhys Parri i ailgreu cegin eiconig Yr Ysgwrn mewn papier-mâché. Cafodd y gegin a replica’r Gadair Ddu eu harddangos a rhoddwyd cyfle i ymwelwyr brofi hud a lledrith a naws am le rhyfeddol Yr Ysgwrn tra bod y safle ar gau.

Hydref 24ain, 2015

Yn dilyn dros flwyddyn o gynllunio, dechreuodd y gwaith o warchod a datblygu’r safle. Rhwng clirio’r twlc mochyn a’r ffermdy daeth ambell drysor i’r golwg, gan gynnwys wal grawiau hyfryd yn siambr y forwyn a oedd yn cuddio o dan hen haenau o bapur wal, a daethpwyd o hyd i hen lyfrau’r teulu yn y twlc mochyn. Dechreuwyd y gwaith o godi sied amaethyddol newydd i’r tenant gan gwmni R.L Davies i ffwrdd o gnewyllyn hanesyddol y fferm.

Tachwedd 30ain, 2015

Caewyd drysau’r Ysgwrn i’r cyhoedd tan Gwanwyn 2017.

Rhagfyr 4ydd, 2015

Am y trydydd tro yn unig ers cyrraedd Yr Ysgwrn am y tro cyntaf yn 1917, symudwyd y Gadair Ddu o ffermdy’r Ysgwrn tra bod gwaith cadwraeth yn parhau. Cafodd ei symud yn ofalus i storfa yn Llys Ednowain gyda’r pum cadair Eisteddfod leol a enillodd Hedd Wyn.

Ionawr 26ain, 2016

Cafodd un o drysorau mwyaf Yr Ysgwrn ei dynnu lawr er mwyn derbyn archwiliad pellach. Swynwyd ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd gan yr haenau o bapur wal ar wal y Gegin. Daeth gwmni Crick-Smith o Brifysgol Lincoln, sy’n arbenigo ar bapur wal, i’r Ysgwrn i gymryd samplau o bapur wal a phaent o gwmpas y ffermdy. Synwyd pawb gan ganlyniad eu hadroddiad – roedd 26 haen o bapur wal yn y gegin!
Meddai’r adroddiad:
“Mae’r papurau wal yn cynrychioli tua 100 mlynedd o bresenoldeb di-dôr y teulu yn y cartref, er bod y dystiolaeth gynharaf yn ddarniog ac felly yn anodd ei ddyddio. Mae’r addurniad i weld yn amlach yn y cyfnod cynnar (ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf hyd at yr 1930au hwyr). Er hynny, rhaid hefyd cadw mewn cof y posibilrwydd o bapurau yn cael eu tynnu o’r waliau. Mae cefn’r papurau yn dangos trosglwyddiad o liwiau, sy’n awgrymu bod yr haenau yn barhaus o’r 1900au cynnar ymlaen.”

Mai 2016

Dechreuodd Grosvenor Construcion, cwmni o Fae Cinmel sy’n arbenigo mewn treftadaeth. eu gwaith cadwraeth yn Yr Ysgwrn. Nhw oedd yn gyfrifol am y prif waith ar yr adeiladau hanesyddol megis y twlc mochyn, Beudy Llwyd ac wrth gwrs, y ffermdy ei hun.

Mehefin 2016

Cafodd yr artist Catrin Williams ei chomisiynu i weithio gyda phump ysgol leol a grwpiau cymunedol er mwyn creu clytwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan dirlun Yr Ysgwrn a gaiff ei arddangos yn barhaol ym Meudy Llwyd.

Hydref 10fed, 2016

Dechreuodd Meilir Jarrett, tenant fferm Yr Ysgwrn ddefnyddio’r sied amaethyddol newydd yn barhaol. Cafodd y sied ei wynebu gyda phren o’r goedlan gyfagos ac mae arni do gwair er mwyn ei gweddu i mewn i’r tirlun.

Ionawr 6ed, 2017

Cafodd y Cadeiriau Eisteddfodol eu gyrru i lawr i Gaerfyrddin er mwyn cael eu adfer o dan ofal tyner y crefftwr Hugh Haley. Gydag oed, daeth y cadeiriau yn fregus a rhaid oedd cwblhau gwaith cadwraethol arnynt.

Mehefin 6ed, 2017

Ail-agorwyd drws Yr Ysgwrn i’r cyhoedd am y tro cyntaf.